Mae bachgen 15 oed wedi’i gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos gerbron llys wedi’i gyhuddo o lofruddio bachgen arall.

Fe gafodd y bachgen – na ellir ei enwi oherwydd rhesymau cyfreithiol – ei arestio yn dilyn marwolaeth Samuel Baker, 15, o ganlyniad i gael ei drywanu yn ninas Sheffield.

Bu farw yn yr ysbyty ddydd Iau diwethaf (Mai 24), awr wedi i’r gwasanaethau brys ddod o hyd iddo wedi’i glwyfo ar y stryd.

Mae’r bachgen a ymddangosodd gerbron ynadon Sheffield heddiw wedi’i orchymyn i ymddangos gerbron Llys y Goron Sheffield fory (dydd Mawrth, Mai 29).