Mae dyn wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddio, wedi i gyrff dynes a merch 11 oed gael eu canfod yng Nghaerloyw.

Fe gafodd plismyn eu galw yn ystod oriau mân ddydd Llun (Mai 28), yn dilyn adroddiadau fod dau o bobol wedi’u hanafu’n ddrwg.

Pan gyrhaeddodd yr heddlu, fe gyhoeddwyd fod dynes 31 oed a merch 11 oed wedi marw.

Mae heddlu sir Gaerloyw wedi cadarnhau fod dyn 28 oed wedi’i ddwyn i’r ddalfa ar amheuaeth o lofruddiaeth.