Mae dyn 47 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddio, ar ôl i gorff dynes yn ei hugeiniau gael ei ddarganfod mewn gwely.

Cafodd yr heddlu eu galw i Crawley yng Ngorllewin Swydd Sussex nos Wener yn dilyn pryderon ffrind y ddynes.

Cafwyd hyd i’w chorff mewn gwely, ac roedd y dyn sydd wedi’i arestio hefyd yn yr eiddo ag anafiadau. Cafodd e driniaeth gan barafeddygon cyn cael ei arestio.

Mae’r dyn yn y ddalfa o hyd, ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.