Dim ‘awyren Brexit’ ar gael i Boris Johnson

Diweddarwyd  

Boris Johnson

Llun: Boris Johnson trwy Commons Wikimedia

Mae Ysgrifennydd Tramor, Llywodraeth Prydain, wedi methu â denu cefnogaeth i’w syniad o gael “awyren Brexit” iddo’i hun, er mwyn gwerthu delwedd y Deyrnas Unedig ledled y byd.

Ac yntau ar daith o Dde America yr wythnos hon, fe ddywedodd Boris Johnson fod yr RAF Voyager – sy’n cael ei defnyddio gan y Prif Weinidog, aelodau pwysig o’r cabinet, ynghyd â’r teulu brenhinol – “byth ar gael” at ei ddefnydd ef a’i adran.

Fe awgrymodd hefyd fod lliw llwyd yr awyren yn tanseilio’r effaith y bydd yn ei gael ar ddelwedd y Deyrnas Unedig yn y byd.

“Fe ddywedaf i hyn am y Voyager, dw i’n meddwl ei bod yn grêt,” meddai, “ond mae’n anodd iawn i gael gafael arni.

“Dyw hi byth ar gael, am ryw reswm. Dw i ddim yn gwybod pwy sy’n ei defnyddio, ond dyw hi byth ar gael. Hefyd, pam mae’n rhaid iddi hi fod yn llwyd?”

Ymateb Rhif 10

Yn ôl llefarydd ar 10 Stryd Downing, nid oes “unrhyw gynlluniau” ar y gweill i newid y sefyllfa bresennol sy’n ymwneud â thrafnidiaeth.

Fe wnaeth hefyd gyfeirio at y ffaith bod yr awyren wedi’i baentio’n llwyd oherwydd ei fod, fel awyren filwrol, yn cael ei ddefnyddio o hyd am “bethau pwysig” fel cario tanwydd.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

1988-2018 Cylchgrawn Golwg yn 30 oed