Mae’r gwr busnes, Richard Branson yn gobeithio y bydd agor ei westy Virgin cyntaf yng ngwledydd Prydain yn yr hen ran o ddinas Caeredin, yn help i adfywio’r ardal.

Mae disgwyl i’r gwesty, ar safle India Buildings yn Victoria Street, agor yn 2020, pan y bydd yn cynnig 225 o ystafelloedd, bwyty a bariau yn ogystal â nifer o fannau cyfarfod.

Fe gynhaliwyd seremoni fechan ar y safle neithiwr (nos Fawrth, Mai 22) er mwyn dathlu’r cynllun.

“Dw i wrth fy modd ein bod yn mynd i agor gwesty cyntaf Virgin yng ngwledydd Prydain, yma yn ninas Caeredin,” meddai Richard Branson.

“Mae gan ein cwmni ni nifer o westai yn yr Unol Daleithiau, ond mae yna rywbeth arbennig iawn am agor ein gwesty cyntaf yr ochr yma i’r Iwerydd.

“A pha le gwell na Chaeredin?” meddai wedyn. “Roedd fy nain a fy nhaid yn hanu o Gaeredin. Albanes ydi fy ngwraig, Joan. Ac mae’r ddinas hon yn hawlio lle arbennig iawn yn fy nghalon.”