Mae dynes wedi cael ei charcharu am o leia’ ddeuddeg mlynedd am daflu asid dros wyneb ei chyn-gariad.

Mi daflodd Berlinah Wallace, 48, yr asid dros Mark van Dongen tra’r oedd yn cysgu mewn gwely yn ei fflat, ym mis Medi 2015.

Roedd y dyn 29 blwydd oed wedi dod â’r berthynas i ben, a dechrau perthynas newydd â dynes arall.

Wrth gyflawni’r weithred mi ddywedodd, Berlinah Wallace: “Os dw i methu bod mewn perthynas â ti, does neb yn cael,” gan chwerthin.

Yn dilyn yr ymosodiad, bu’r dyn mewn coma am bedwar mis, roedd ganddo losgiadau dros ei gorff, roedd yn ddall yn ei lygad chwith, roedd wedi’i barlysu’n rhannol, a bu’n rhaid torri ei goes i ffwrdd.

Daeth ei fywyd i ben mewn clinig ewthanasia yng Ngwlad Belg ar Ionawr 2, 2017.

Y llys

“Llosgi, Mark van Dongen, a’i wneud yn anabl, oedd eich bwriad” meddai’r Ustus, Nicola Davies, wrth ddedfryd y ddynes, yn Llys y Goron Bryste.

“Doeddech chi ddim am iddo fod yn ddeniadol i fenywod eraill. Gweithred o falais pur oedd hyn.”

Cafodd Berlinah Wallace ei barnu’n ddieuog o lofruddiaeth, ond cafodd ei barnu’n euog o sylwedd cyrydol gyda’r bwriad o achosi niwed.