Mae cwmni Marks & Spencer wedi datgelu bod eu helw i lawr eto eleni.

Mi wnaeth y cwmni wneud elw o £66.8m yn ystod y flwyddyn hyd at fis Mawrth  – mae hynny’n gwymp o 62.1% – a gwerthodd y cwmni 1.9% yn llai o gynnyrch.

Mae’n debyg mai cynllun £321.1 miliwn i gau siopau ledled gwledydd Prydain, sy’n gyfrifol am y cwymp yn eu helw.

Trawsnewid

“Rhaid mynd i’r afael â sawl problem strwythurol, ac rydym yn cymryd camau i wneud hynny,” meddai’r Prif Weithredwr, Steven Rowe.

“Bydd y drefn newydd wedi’i sefydlu, i raddau helaeth, erbyn Gorffennaf. Ac mae’r tîm wrthi’n trïo troi M&S mewn i fusnes cyflymach, llai costus, a digidol.”

Cau siopau

Daw’r canlyniadau diweddaraf ddiwrnod yn unig wedi i Marks & Spencer gyhoeddi eu bod am gau 100 siop erbyn 2022.

Nod y cam yw arbed costau, ac mae disgwyl y bydd miloedd o swyddi’n cael ei rhoi yn y fantol.