Mae heddlu wedi arestio dyn yn Dover, wedi i ddyn arall gael ei saethu’n farw yn Birmingham.

Fe gafodd y dyn, 23, ei ddal ar armheuaeth o lofruddiaeth wrth iddo geisio mynd ar fwrdd fferi yn ystod oriau mân y bore.

Roedd yn teithio gyda dynes, 23, sydd hefyd wedi’i dwyn i’r ddalfa ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Yn ol Heddlu’r West Midlands, mae’r ddau unigolyn yn hanu o Birmingham, ac mae disgwyl iddyn nhw gael eu holi heddiw gan swyddogion sy’n ymchwilio i farwolaeth dyn 22 oed yn Handsworth ddydd Mawrth yr wythnos hon.

Fe ddaethpwyd o hyd i’r gwr hwnnw yn farw mewn car toc cyn 5yp ddydd Mawrth, Mai 22.