Mae’r cwmni archfarchnad, Tesco, wedi cyhoeddi y bydd eu gwefan, Tesco Direct, yn dod i ben yn ystod yr haf.

Mae’r cwmni wedi penderfynu dod â’r gwasanaeth ar-lein – sy’n gyfrifol am yr ochr o Tesco sy’n gwerthu teganau, dillad a nwyddau tŷ – i ben yn dilyn adolygiad a oedd yn nodi bod yna “nifer o heriau” yn wynebu’r wefan.

Ymhlith y pennaf o’r rheiny oedd costau marchnata ar-lein, a oedd yn rhwystro Tesco rhag cynnig busnes “effeithlon” a oedd ddim yn gwerthu bwyd.

Mae’r cwmni hefyd wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cau’r ganolfan ddosbarthu yn Fenny Lock, ger Milton Keynes, gan roi cyfanswm o 500 o swyddi yn y fantol.

Mi fydd Tesco Direct yn dod i ben ar Orffennaf 9, ac mae’r wefan bellach yn dweud y bydd yna oedi o ddau i dri diwrnod wrth dderbyn archebion.