Flwyddyn yn union wedi ymosodiad brawychol yn Arena Manceinion, fe fydd gwasanaeth yn cael ei gynnal yn ddiweddarach heddiw i gofio’r rhai fu farw.

Ymhlith yr unigolion fydd yno y mae teuluoedd y meirw, goroeswyr yr ymosodiad, a Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May.

Yn ogystal â’r gwasanaeth hwn yng Nghadeirlan Manceinion, fe fydd mannau ledled gwledydd Prydain, yn cynnwys Senedd Cymru, yn cynnal munud o dawelwch.

“Heddiw… byddwn yn cofio 22 o’r bobol wnaeth golli’u bywydau, ac rydym yn ymrwymo unwaith eto i gefnogi’r teuluoedd a’r rai cafodd eu heffeithio,” meddai Maer Manceinion, Andy Burnham.

Yr ymosodiad

Fe ffrwydrodd Salman Abedi ei ddyfais am 10.31yh ar Fai 22, 2017 wedi i gyngerdd y gantores, Ariana Grande, ddod i ben yn Arena Manceinion.

Roedd 353 o bobol yn agos i’r ffrwydrad – yn cynnwys 175 o blant – a chafodd dros 800 o bobol eu hanafu naill ai’n gorfforol neu’n feddyliol.