Mae Ken Livingstone wedi ymddiswyddo o’r Blaid Lafur, gan ddweud fod materion yn ymwneud â’i waharddiad oherwydd sylwadau “gwrth-Semitig” honedig, wedi tynnu sylw oddi ar bethau gwirioneddol bwysig.

Mewn datganiad, mae cyn-Faer Llundain, a gafodd ei wahardd yn 2016 am honni fod Adolf Hitler yn y 1930au yn cefnogi Seioniaeth – sef y mudiad sy’n honni fod Iddewon yn haeddu eu mamwlad eu hunain.

Mae’n gadael “â chalon drom iawn”, meddai, ac mae’n gwrthod unrhyw honiad ei fod yn wrth-Iddewig.

“Wedi hir bendroni, dw i wedi penderfynu ymddiswyddo o’r Blaid Lafur,” meddai Ken Livingstone.

“Mae’r materion sy’n dal i rygnu ymlaen yn dilyn fy ngwaharddiad, wedi tynnu sylw oddi ar y prif faterion gwleidyddol yn ein cyfnod ni,” meddai wedyn.

“Fe ddylai Llafur fod yn canolbwyntio ar gael gwared â’r llywodraeth Geidwadol, codi safonau byw pobol… mae’r llywodraeth bresennol yn newynu ein hysgolion o arian, a’n Gwasanaeth Iechyd o’r adnoddau y mae eu hangen.”