Mae dynes o wledydd Prydain, sydd eisoes wedi’i barnu’n euog o ysbïo, yn wynebu cyhuddiad newydd yn Iran.
Cafodd Nazanin Zaghari-Ratcliffe ei harestio a’i charcharu yn 2016, ar gyhuddiad o gynllwynio yn erbyn llywodraeth y wlad.
Mae’r ddynes – sydd â dinasyddiaeth ddeuol Prydeinig-Iranaidd – yn gwadu’r cyhuddiad, ond yn wynebu cyfanswm o bum mlynedd dan glo.
Mi ymddangosodd gerbron llys ar ddydd Sadwrn, meddai ei gŵr, Richard Ratcliffe, ar gyhuddiad o ledaenu propaganda yn erbyn llywodraeth Iran.
Ac mi wadodd y cyhuddiad, meddai’r gŵr, gan alw am ryddid fel ei bod yn medru cael ail blentyn – cafodd ei harestio tra’r oedd yn Iran â’i phlentyn, Gabriella.
“Ergyd arall”
Mae’r cyhuddiad diweddaraf yn “ergyd arall” i Nazanin Zaghari-Ratcliffe a’i theulu, yn ôl Cyfarwyddwr Ymgyrchoedd Amnest Rhyngwladol yn y Deyrnas Unedig, Kerry Moscogiuri.
“Mae Nazanin eisoes wedi wynebu achos a dedfryd annheg, a chyfres o gyhuddiadau yng nghyfryngau Iran,” meddai Kerry Moscogiuri.
“Galwn ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig – gan gynnwys yr Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson – i weithio’n galetach i fynd i’r afael â sefyllfa anodd Nazanin.”