Mae aelod o gabinet yr wrthblaid wedi dweud bod yna faterion “ehangach na chladin” ynghlwm wrth drychineb Tŵr Grenfell.

Daw sylwadau Diane Abbot ar ddiwrnod cyntaf yr ymchwiliad cyhoeddus i’r tân a ddigwyddodd bron i flwyddyn yn ôl.

Ar y rhaglen Today ar BBC Radio 4 y bore yma (dydd Llun, Mai 21), fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Cysgodol fod angen gwneud y gymuned yn “rhan ganolog” o’r ymchwiliad, a hynny os yw am lwyddo.

“Fe ddylai’r ymchwiliad hwn fod yn ymchwiliad dylanwadol, a dydych chi ddim yn gallu ei gael yn iawn oni bai bod y gymuned yn rhan ganolog ohono, oherwydd dw i’n meddwl bod yna faterion mwy ynghlwm wrth Grenfell,” meddai.

“Mae yna agweddau technegol o ran sut dechreuodd y tân ac yn y blaen, ond mae yna faterion ehangach sydd angen inni eu hystyried.

Ychwanegodd hefyd fod goroeswyr y trychineb eisiau “adolygiad fforensig o’r hyn ddigwyddodd” a all ddangos pwy oedd yn gyfrifol.

“Mae yna faterion ynghlwm wrth Grenfell sy’n ehangach na chladin ac yn y blaen – a’r rheiny ynglŷn â’r gymuned, ar y stad honno, na wrandawodd neb arnyn nhw, a pham y cawson nhw eu gadael ar eu pennau eu hunain.”

Yr ymchwiliad

Mae’r ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gadeirio gan y cyn-farnwr, Syr Martin Moore-Bick.

Yn dilyn misoedd o ymgyrchu, roedd grwpiau fel Grenfell United, Justice 4 Grenfell a Humanity 4 Grenfell wedi llwyddo i sicrhau bod panel amrywiol yn ymuno â’r cadeirydd.

Yn ystod y gwrandawiadau cyntaf, mae teuluoedd a ffrindiau wedi bod yn cofio’r 72 o bobol a fu farw yn y digwyddiad yng ngorllewin Llundain ar Fehefin 14 y llynedd.

Mi fydd chwech o’r rheiny yn cael eu cofio heddiw, sef Denis Murphy, Mohamed Amied Neda, Joseph Daniels, y fam a’r ferch, Mary Mendy a Khadija Saye; a’r babi, Logan Gomes.

Fe gafodd Logan Gomes ei eni’n farw yn yr ysbyty ar Fehefin 14, ychydig oriau ar ôl i’w rieni ddianc o’r fflatiau.

Cafwyd 72 eiliad o dawelwch, er cof am y 72 a fu farw, ar ddechrau’r gwrandawiad.