Mae Llundain o hyd yn cael ei thrin fel storfa ar gyfer arian llygredig o Rwsia, yn ôl Aelodau Seneddol.

Mewn adroddiad newydd, mae’r Pwyllgor Materion Tramor yn honni bod yr arian yma yn cael ei ddefnyddio gan Rwsia i “danseilio’r drefn ryngwladol”.

Ac i fynd i’r afael hyn, maen nhw wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddangos “arweinyddiaeth gryfach” a gosod rhagor o sancsiynau ar “unigolion sydd â chysylltiadau a Rwsia.”

Daw’r rhybudd yn sgil ymosodiad Salisbury, lle cafodd y cyn-ysbïwr Rwsiaidd Sergei Skripal a’i ferch, eu gwenwyno. Mae’r Deyrnas Unedig wedi beio Rwsia am yr ymosodiad, ond maen nhw’n gwadu’r cyhuddiad.

“Rhethreg gref”

“Er gwaetha’r rhethreg gref, mae Arlywydd Rwsia [Vladimir Putin] a’i gyfeillion, yn parhau i guddio’u harian llygredig yn Llundain,” meddai’r pwyllgor.

“Mae’r arian yma – sydd ar gael i’r Kremlin ar unrhyw adeg – yn cynorthwyo ymgyrch Arlywydd Putin, wrth iddo danseilio’r drefn ryngwladol.”