Fe fydd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon yn tanio dadl newydd am annibyniaeth yr wythnos hon wrth i gomisiwn twf economaidd gyhoeddi adroddiad.

Dywedodd y byddai’r adroddiad yn gyfle am ddadl newydd yn seiliedig ar “uchelgais a gobaith”.

Cafodd y comisiwn ei sefydlu yn 2016 i edrych ar opsiynau ariannol amrywiol ar gyfer Alban annibynnol, ac fe fydd yn cyflwyno nifer o argymhellion, gan gynnwys manteision ariannol bod yn wlad annibynnol.

Mae lle i gredu y gallai’r comisiwn argymell creu arian unigryw i’r Alban.

‘Amseru’

Wrth siarad â rhaglen Peston on Sunday ITV, dywedodd Nicola Sturgeon y byddai ei llywodraeth yn gwneud penderfyniad ar refferendwm annibyniaeth newydd ar ôl i fater Brecsit gael ei ddatrys.

“Wna i ddim dweud mwy am hynny cyn i’r foment godi. Ond wrth gwrs, dros yr wythnosau nesaf, byddwn ni, am wn i, yn ailddechrau dadl ynghylch pam fod annibyniaeth i’r Alban yn gyfle, a beth yw’r cyfleoedd hynny.”

Dywedodd fod rhaid ystyried “sut i ymdopi â difrod Brecsit”, ond y dylai refferendwm newydd fod yn seiliedig ar “uchelgais a gobaith, ac nid ar anobaith”.

Dywedodd na fyddai’r SNP yn atal ail refferendwm ar gynnwys cytundeb Brecsit – mae Senedd yr Alban eisoes wedi gwrthod rhoi caniatâd i basio’r Bil Ymadael fel ag y mae ar hyn o bryd.

Mae’r holl bleidiau eraill wedi wfftio cynlluniau a sylwadau Nicola Sturgeon.