Mae Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow, wedi cael ei gyhuddo o alw enwau a rhegi ar un o weinidogion Llywodraeth Prydain.

Mae rhai ASau yn honni bod John Bercow wedi galw Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Andrea Leadsom yn “ddynes wirion” mewn cyfarfod yno ddoe (dydd Iau, Mai 17), cyn mynd ymlaen i regi amdani.

Mae’n debyg na wnaeth y gweinidog glywed y sylwadau hyn, ond fe gafodd ei glywed gan ASau a oedd yn eistedd nid nepell o sedd y Llefarydd.

Yn ôl un AS wrth bapur newydd The Telegraph, roedd yn “sicr” bod John Bercow wedi galw Andrea Leadsom yn “ddynes wirion”, ond nid oedd mor siŵr am y rhegi. Ond ychwanegodd fod yr hyn a glywodd yn “hollol annerbyniol”.

Ymateb y Llefarydd

Mewn datganiad, mae Swyddfa’r Llefarydd wedi ymateb trwy ddweud bod ddoe yn “ddiwrnod anghyffredin a dadleuol” yn Nhŷ’r Cyffredin, a hynny yn y modd y cafodd busnes ei drin yn y siambr.

Mae’n ychwanegu hefyd bod “gwahanol safbwyntiau” wedi cael eu mynegi ar y ddwy ochr.

“Mae’r Llefarydd yn trin ei gydweithwyr gyda pharch ac yn anelu at ddefnyddio pob cyfle i hyrwyddo Tŷ’r Cyffredin,” meddai.

Honiadau o fwlio

Fe fu’r digwyddiad ar un diwrnod a phan gafodd ymchwiliad i honiadau o fwlio yn erbyn John Bercow, ei rwystro gan ASau.

Fe bleidleisiodd Pwyllgor Safonau Tŷ’r Cyffredin o dair pleidlais i un yn erbyn caniatáu i ymchwiliad gael ei gynnal.

Daw hyn ar ôl i ddau gyn-ysgrifennydd preifat i’r Llefarydd, Angus Sinclair a Kate Emms, gyhuddo John Bercow o’u trin yn wael.