Mae’r Llywodraeth yn ystyried bron a dyblu nifer y milwyr o Brydain sydd yn Afghanistan, yn ôl adroddiadau.

Mae lle i gredu bod yr Ysgrifennydd Amddiffyn Gavin Williamson wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Theresa May yn argymell y cynnydd, er bod y penderfyniad heb gael ei wneud hyd yn hyn.

Yn ôl adroddiadau fe allai rhwng 400 a 450 o filwyr gael eu hanfon i’r wlad i ymuno a’r tua 600 sydd yno’n barod, yn dilyn pwysau gan Donald Trump.

Mae’n debyg bod Nato hefyd wedi gofyn i Brydain anfon rhagor o filwyr i’r wlad.

Mae’r Unol Daleithiau wedi cynyddu ei phresenoldeb yn Afghanistan ers i’r Arlywydd Donald Trump lansio ei strategaeth ar gyfer De Asia ym mis Awst y llynedd.

Credir bod tua 4,000 o filwyr wedi cael eu hychwanegu at yr 8,400 sydd yno’n barod o’r Unol Daleithiau er mwyn rhoi cefnogaeth i lywodraeth Kabul, hyfforddi lluoedd Afghanistan a brwydro’r Taliban a grwpiau milwriaethus eraill.

Roedd y rhan fwyaf o filwyr Prydain wedi gadael Afghanistan yn 2014 ac mae’r rhai sy’n weddill wedi’u cyfyngu i hyfforddi lluoedd y wlad yn unig.

Mae disgwyl i Theresa May ymuno a Donald Trump yn uwchgynhadledd Nato ym Mrwsel ym mis Gorffennaf.