Mae’r carcharor drwg-enwog, Charles Bronson, sydd â chysylltiad teuluol ag Aberystwyth, wedi ymddangos gerbron y llys unwaith eto, a hynny ar amheuaeth o ymosod ar gyd-garcharor iddo.

Mae’r dyn 65 oed, a gafodd ei eni’n Michael Peterson, ond sydd bellach yn cael ei adnabod dan yr enw Charles Salvador, wedi cael ei gyhuddo o gyflawni’r weithred ar Ionawr 25.

Fe gafodd manylion am yr ymosodiad eu datgelu yn Llys Ynadon Leeds ddoe (dydd Mercher, Mai 16), ac fe fydd yr achos yn parhau ar Fehefin 18.

Lleidr â chysylltiadau Cymreig

Fe gafodd Charles Bronson ei eni yn Luton, Swydd Bedford yn fab i Joe ac Eira Peterson, a fu’n rhedeg hen glwb Ceidwadol Aberystwyth yn ddiweddarach.

Yn dilyn cyfnod o saith mlynedd yn y carchar yn y 1970au am ladrata, fe symudodd George Bronson i fyw yn nwyrain Llundain, gan ddechrau gyrfa fel ymladdwr.

Fe ddychwelodd i’r carchar yn ddiweddarach am gynllwynio i ladrata, ac oherwydd ei agwedd dreisgar tuag at ei gyd-garcharion a swyddogion y carchardai, fe dderbyniodd ddedfryd oes.

Dros y blynyddoedd, mae wedi treulio gwahanol gyfnodau yng ngharchardai Kampton, Broadmoor ac Ashworth.

Yn 2008, fe gafodd ffilm am ei fywyd ei rhyddhau,, sef Bronson, gyda’r actor Tom Hardy yn chwarae’r brif ran.