Mae adolygiad i’r tân yn fflatiau Twr Grenfell flwyddyn yn ôl, wedi dod i’r casgliad na fyddai gwahardd cladin ymfflamychol yn mynd i’r afael â holl broblemau yn y byd adeiladu.

Mae’r Fonesig Judith Hackitt yn dweud mai “dihidrwydd ac anwybodaeth” oedd wedi creu sefyllfa yn y twr lle’r oedd pobol yn rasio am y cyntaf i gyrraedd y gwaelod.

Mae hi wedi amlinellu cyfres o bethau a allai wneud tyrau fflatiau fel Grenfell yn fwy diogel.

  • Mae rhai cwmnïau adeiladu yn defnyddio’r amryfusedd ynglyn â rheolau adeiladu er mwyn “chwarae’r system”, meddai, ac mae angen rhoi stop ar hynny;
  • Mae angen rheoleiddiwr i ganolbwyntio ar safonau adeiladu;
  • Mae yna bobol eraill sy’n dweud nad ydyn nhw’n ymwybodol o’r holl reolau, ac mae’n dweud fod angen gwneud popeth yn glir ac yn amhosib ei anwybyddu neu eu gwyr;
  • Mae angen i bobol sy’n gyfrifol am dyrau fflatiau wrando ar bryderon a materion sy’n cael eu codi gan drigolion;
  • Mae angen trefn well o brofi deunyddiau adeiladu a chladin, cyn eu bod yn cael eu gosod ar adeilad;
  • Mae angen i’r diwydiant adeiladu ei hun osod ei safonau, a chadw atyn nhw, o ran sgiliau gweithwyr – ac fe ddylid gael corff i oruchwylio hyn.

“Mae’r materion hyn wedi bod yn gyfrifol am greu diwylliant peryg,” meddai wedyn. “Roedd y cladin yn gyfrifol am alluogi’r tân i ledaenu mor gyflym a lladd 71 o bobol, ac mae yna gannoedd o adeiladau tebyg wedi’u canfod yn y flwyddyn ers y tân ar Fehefin 14, 2017.

“Mae angen mynd i’r afael â’r broblem wrth ei bôn, er mwyn osgoi Grenfell arall.”