Mae Aelodau Seneddol wedi canmol dau blismon am eu rhan yn y broses o ddal llofrudd Jo Cox.

Roedd y cwnstabliaid Craig Nicholls a Jonathan Wright o Heddlu Gorllewin Swydd Efrog yn San Steffan heddiw ar gyfer Sesiwn Holi’r Prif Weinidog.

Dywedodd Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow: “Foneddigion, rydym yn anrhydeddu eich gwasanaeth cyhoeddus, rydym yn diolch i chi amdano ac yn cynnig y croeso mwyaf cynnes i chi yma i Dŷ’r Cyffredin heddiw.”

Ychwanegodd y Prif Weinidog, Theresa May ei bod yn briodol “cydnabod dewrder a gwaith caled” y plismyn, cyn ychwanegu bod San Steffan “wedi colli un o’r goreuon” yn dilyn marwolaeth Jo Cox.

Dywedodd arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn fod y plismyn “wedi gwneud gwaith gwych, fel y mae plismyn yn ei wneud ym mhob rhan o’r wlad”.

Cafodd Jo Cox ei saethu a’i thrywanu gan Thomas Mair yn ei hetholaeth yn Batley a Spen ddyddiau’n unig cyn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd yn 2016.