Mae Llafur wedi gwrthod troi cefn ar aelodaeth Prydain o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd fel rhan o’r cytundeb i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Gwrthdystiodd dwsinau o Arglwyddi Llafur yr wythnos ddiwethaf er mwyn cefnogi gwelliant sy’n gweld aelodaeth o’r corff yn ddull o fargeinio o safbwynt Llywodraeth Prydain.

Mae llefarydd Brecsit Llafur, Paul Blomfield wedi osgoi ateb cwestiynau ynghylch cefnogaeth Llafur i’r mesur pan fydd yn mynd gerbron aelodau seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin, ond mae wedi cyfaddef fod iddi broblemau sylfaenol.

Dywedodd wrth raglen Today ar BBC Radio 4: “Rydym yn mynd i wneud ein penderfyniad ar y gwelliannau a ddaw’n ôl o’r Arglwyddi pan fydd y Llywodraeth yn dod â’r ddeddfwriaeth yn ei hôl o’r Arglwyddi.

“Dydyn ni ddim yn cefnu ar unrhyw beth.”

Papur Gwyn

Daw ymateb Llafur wrth i Lywodraeth Prydain baratoi Papur Gwyn sy’n cael ei alw “y cyhoeddiad mwyaf arwyddocaol ar yr Undeb Ewropeaidd ers y refferendwm” gan Ysgrifennydd Brecsit, David Davis.

Dywedodd y byddai’r papur yn cynnwys “esboniadau manwl, uchelgeisiol a chywir” o safbwyntiau’r Llywodraeth, lai na blwyddyn cyn y dyddiad ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe wnaeth cabinet Llywodraeth Prydain gyfarfod ddydd Mawrth heb ddod i gytundeb ar faterion Iwerddon a nifer o faterion economaidd allweddol.

Mae’r Undeb Ewropeaidd yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Prydain i ddewis yr opsiwn gorau cyn cyfarfod o Gyngor Ewrop ym mis Mehefin. Ond ar hyn o bryd, mae Prif Weinidog Prydain yn ffafrio opsiwn sy’n anghyfreithlon, yn ôl yr Ysgrifennydd Brecsit.

Yn ôl Michel Barnier, prif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, dydy’r naill opsiwn na’r llall ddim yn realistig.