Fe fydd cyfarfod cabinet ‘rhyfel’ Brexit Theresa May yn cyfarfod eto heddiw – ond nid oes disgwyl y bydd yn arwain at gytundeb ar fater undeb tollau.

Mae’r cabinet wedi bod yn dadlau ynghylch dau gynllun posibl a allai leihau’r angen am ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth, ond dyw hi ddim yn ymddangos eu bod yn nes i’r lan at gytundeb.

Mae’r Undeb Ewropeaidd yn pwyso am ‘gynnydd sylweddol’ gan Brydain mewn pryd erbyn uwch-gynhadledd Cyngor Ewrop ymhen chwe wythnos.

Mae’r Prif Weinidog wedi dod o dan bwysau aelodau gwrth-Ewropeaidd ei phlaid, gan gynnwys Jacob Rees-Mogg, arweinydd grŵp o ASau sy’n gwrthwynebu unrhyw fath o bartneriaeth rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.

Maen nhw’n pwyso arni i ddadlau’n llawer caletach yn erbyn cynrychiolwyr yr Undeb Ewropeaidd.