Mae disgwyl y bydd ASau Senedd yr Alban yn pleidleisio yn erbyn y Mesur Brexit heddiw, gan achosi hollt pellach rhwng Llywodraethau’r Alban a Phrydain.

Yn dilyn misoedd o drafodaethau dros y mesur a fydd yn galluogi’r Deyrnas Unedig i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth yr Alban wedi dweud droeon eu bod yn gwrthwynebu’r mesur am ei fod, medden nhw, yn ymgais i “gipio grym” oddi ar y llywodraethau datganoledig.

Wrth roi’r cyfle i Holyrood bleidleisio ar y mater heddiw, mae disgwyl y bydd y Blaid Werdd, Llafur yr Alban a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ymuno â’r SNP i wrthod y mesur.

Fydd y cam hwn ddim yn rhwystro Llywodraeth Prydain rhag cyflwyno’r ddeddf, ond dyma fydd y tro cyntaf iddi fynd yn groes i ddymuniadau Senedd yr Alban.

“Tanseilio” datganoli

Yn ôl Mike Russell, y Gweinidog Brexit yn yr Alban, does gan lywodraeth Theresa May “ddim mandad” i “danseilio” datganoli.

“Mae datganoli yn rhan o ewyllys gyfansoddiadol nid yn unig pobol yr Alban, ond gweddill y Deyrnas Unedig hefyd,” meddai wrth raglen Today ar BBC Radio 4. “Mae San Steffan yn ceisio tanseilio a newid hynny trwy’r drws cefn.

“Mi fydd y Senedd [yn yr Alban] yn pleidleisio i wrthod caniatâd i’r Mesur Ymadael – nid yn unig yr SNP sydd mewn llywodraeth, ond dw i’n credu y bydd y pleidiau i gyd, ar wahân i’r Ceidwadwyr, yn pleidleisio am hynny.”

SNP eisiau “cychwyn cynnen”

Yn y cyfamser, mae’r Ceidwadwyr yn yr Alban wedi galw ar y Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol i ymuno â nhw mewn cefnogi’r mesur.

Yn ôl yr AS yn Senedd yr Alban, Adam Tomkins, fe fydd y Blaid Geidwadol yn yr Alban yn rhoi caniatâd i’r Alban, a hynny er mwyn galluogi’r Alban i “symud ymlaen”.

“Mae’n resynus nad oes gennym ni gytundeb yn yr Alban er mwyn i ni symud ymlaen,” meddai.

“Mae’r bai am hynny yn llwyr ar yr SNP. Mae Nicola Sturgeon wedi gwrthod cyfaddawdu.

“Dyw’r ffaith bod yr SNp yn ffafrio cychwyn cynnen na chreu cytundeb ddim er budd yr Alban.”

Mae disgwyl i ASau bleidleisio ar y mater am 5yh heddiw yn dilyn dadl.