Fe fu cannoedd o bobol yn ymgasglu y tu allan i stadiwm clwb pêl-droed Everton heddiw (dydd Llun, Mai 14), a hynny er mwyn ffarwelio â’r babi 23 mis oed, Alfie Evans.
Fe fu farw Alfie Evans ddiwedd y mis diwetha’, a hynny ar ôl i feddygon yn Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl ddiffodd ei offer cynnal bywyd.
Roedd wedi dioddef o gyflwr prin ar yr ymennydd, ac roedd ei rieni, Tom Evans a Kate James, wedi arwain brwydr gyfreithiol hir yn erbyn awdurdodau’r ysbyty er mwyn ei gadw’n fyw.
Roedd y ddau wedi gobeithio cael yr hawl i fynd ag ef i’r Eidal i dderbyn triniaeth bellach, ond fe gollon nhw’r hawl yn y Llys Apêl ychydig ddyddiau cyn marwolaeth eu mab.
Yr angladd
Angladd breifat a gafodd ei chynnal i’r babi yn Lerpwl heddiw, ond fe ddaeth cannoedd o bobol i wylio’r arch yn cael ei chludo heibio i stadiwm Goodison Park.
Yn gynharach, fe fu aelodau o ‘Fyddin Alfie’ yn clymu balŵns glas a phorffor ar y cerflun o Dixie Dean y tu allan i’r stadiwm, gyda rhubanau o’r un lliw wedyn wedi’u gosod ar y giatiau.
Roedd nifer o gardiau wedi cael eu gadael wrth droed y cerflun hefyd, gyda’r rheiny’n cynnwys teyrngedau i Alfie Evans.
Cyn yr angladd hefyd, fe anfonodd Daniel Evans, ewythr iddo, neges i dudalen ‘Byddin Alfie’ ar y wefan gymdeithasol Facebook, yn diolch i bawb am eu cefnogaeth, gan ychwanegu mai dim ond teulu a ffrindiau agos a fyddai’n rhan o’r gwasanaeth angladdol.