Mae Centrica, perchennog British Gas wedi colli mwy na 100,000 o gwsmeriaid yn ystod pedwar mis cynta’r flwyddyn.

Daw hyn wrth i gystadleuaeth o fewn y farchnad arwain at nifer o gwsmeriaid yn gadael y cwmnïau ynni mwy.

Datgelodd Centrica ei fod wedi colli cyfanswm o 110,000 o gwsmeriaid yn y Deyrnas Unedig yn y cyfnod yma gan roi’r bai ar y cynnydd mewn cystadleuaeth.

Serch hynny, roedd y cwmni wedi gweld cynnydd yn y galw am ynni oherwydd y tywydd oerach nag arfer ym mis Chwefror a Mawrth.

Dywedodd pennaeth Centrica, Iain Conn, bod “2018 wedi dechrau’n dda ar y cyfan a bod perfformiad ariannol yn y flwyddyn wedi bod yn dda er gwaetha’r cynnydd mewn cystadleuaeth yn ein marchnadoedd.”

Yn gynharach eleni, dywedodd Centrica y byddai’n cael gwared a 4,000 o swyddi fel rhan o’i gynllun ail-strwythuro yn dilyn gostyngiad o 17% yn ei elw blynyddol.