Mae disgwyl i bennaeth MI5 ddatgan heddiw bod  yr ymosodiad nwy nerfol yn Salisbury yn “fwriadol ac wedi’i dargedu.”

Yn ei sylwadau cyntaf ers y digwyddiad ym mis Mawrth, fe fydd Andrew Parker yn cyhuddo’r Kremlin o “dorri rheolau rhyngwladol” gan rybuddio bod llywodraeth Rwsia yn dilyn agenda drwy gynllunio gweithredoedd eraill gan ei wasanaethau cudd-wybodaeth a milwrol.

Fe fydd cyfarwyddwr cyffredinol MI5 hefyd yn datgelu bod 12 cynllwyn brawychol wedi cael eu hatal gan yr awdurdodau yn y Deyrnas Unedig mewn ychydig dros flwyddyn.

Berlin

Wrth annerch penaethiaid diogelwch ym Merlin, fe fydd Andrew Parker yn canmol yr ymateb rhyngwladol i ymosodiad Salisbury, ar ôl i 28 o wledydd Ewropeaidd gytuno i gefnogi’r DU drwy anfon nifer o ddiplomyddion Rwsia o’u gwledydd.

Fe fydd hefyd yn dweud bod y bartneriaeth rhwng y gwasanaethau cudd-wybodaeth yn Ewrop yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael a’r bygythiad brawychol rhyngwladol.

Mae Rwsia wedi gwadu bod yn gysylltiedig â’r ymosodiad ar Sergei a Yulia Skripal ym mis Mawrth.