Mae twrnai cyffredinol cysgodol Llafur, Shami Chakrabarti wedi dweud na all cyn-Faer Llundain, Ken Livingstone barhau’n aelod o’r Blaid Lafur oherwydd ei sylwadau am Seioniaeth a Hitler.

Dywedodd ei fod e wedi dwyn cywilydd ar y blaid, a bod angen iddyn nhw ymddiheuro wrth y gymuned Iddewig.

Mae Ken Livingstone wedi’i ddiarddel o’r blaid ar ôl dweud bod Adolf Hitler yn cefnogi Seioniaeth yn y 1930au, ac mae’n dweud y bydd yn gwrthwynebu unrhyw ymgais i’w wahardd yn barhaol.

Dywedodd Shami Chakrabarti wrth raglen Sunday Politics y BBC: “Dw i ddim yn credu y gall Ken Livingstone fod yn y Blaid Lafur bellach.

“Allwn ni ddim rhedeg i ffwrdd oddi wrth y ffaith ei fod e wedi ailadrodd sylwadau llidiol iawn.

“Mae cymharu rhywun oedd yn ceisio ffoi oddi wrth y Natsïaid gyda’r Natsïaid eu hunain a gwneud hynny eto ac eto, ac eto ac eto, hyd yn oed pan ydych chi’n gwybod fod hyn wedi achosi’r loes mwyaf a dolur ac embaras i’r blaid, yn hollol annerbyniol yn fy marn i.”

Ychwanegodd ei fod e wedi “dwyn anfri” ar y Blaid Lafur a’i waddol ei hun.

Ond mae Ken Livingstone wedi disgrifio’r driniaeth ohono gan y blaid fel ymgais i’w bardduo.