Mae gweddw Alexander Litvinenko wedi galw ar i Alex Salmond gefnu ar ei raglen ar Russia Today.

Bu farw’r Rwsiad yn 2006 ar ôl yfed te oedd yn cynnwys poloniwm, ac mae lle i gredu bod yr ymgais i’w ladd wedi cael ei gymeradwyo gan Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin.

Dywedodd Marina Litvinenko wrth y Sunday Herald nad oes modd “esgusodi” ymddangosiadau cyn-Brif Weinidog yr Alban ar y rhaglen.

“Rydych chi’n gwneud hyn oherwydd rydych chi’n credu y gallwch wneud pethau da, yn y lle anghywir. Dydy e ddim yn gweithio.

“Fy neges i yw fy mod yn credu ei fod e’n ddyn y bobol, a gall pawb wneud camgymeriadau, ond rhaid i chi feddwl ddwywaith.

“Gwell fyddai rhoi’r gorau iddi, ond ei benderfyniad ef ei hun yw e.”

Gweithio i’r Rwsiaid

Fe wnaeth Marina Litvinenko gymharu Alex Salmond â chyn-Ganghellor yr Almaen, Gerhard Schroeder, fu’n gweithio i’r cwmni ynni Rwsiaidd Gazprom.

“Yn anffodus, nid yn unig mae gennym ni Schroeder, ond mae gennym ni bobol eraill nawr fel Salmond, sy’n hapus i weithio am arian Rwsiaidd.”

Mae llefarydd ar ran Russia Today wedi mynegi ei gydymdeimlad.