Mae’r cyn-Aelod Seneddol Llafur, y Fonesig Tessa Jowell wedi marw’n 70 oed.

Cafodd hi waedlif ar yr ymennydd ddydd Gwener a bu farw ddydd Sadwrn ar ôl bod mewn coma. Cafodd hi wybod y llynedd bod ganddi diwmor ar ei hymennydd.

Yn gyn-Weinidog Diwylliant yn San Steffan, roedd hi’n flaenllaw yn yr ymgyrch i ddenu’r Gemau Olympaidd i Lundain yn 2012.

Yn ystod ei salwch, galwodd hi am wella mynediad cleifion i driniaethau newydd.

Bu farw’n dawel yn ei chartref yn Swydd Warwick gyda’i theulu o’i chwmpas. Mae’n gadael gŵr, David, a dau o blant, Jessie a Matthew.

Bydd gwasanaeth angladdol yn cael ei gynnal dros y dyddiau nesaf, a gwasanaeth coffa’n ddiweddarach yn y flwyddyn.

Teyrngedau

Wrth dalu teyrnged iddi, dywedodd cyn-Brif Weinidog Prydain, Tony Blair fod ganddi “angerdd, dyfalbarhad a mwy o gwrteisi nag unrhyw berson arall rwy wedi’i adnabod”.

Ychwanegodd ei bod hi’n “ysbrydoliaeth” ac yn gydweithiwr “ffyddlon a chefnogol”.

Dywedodd cadeirydd pwyllgor trefnu Gemau Olympaidd Llundain, yr Arglwydd Sebastian Coe: “Nid yn unig yr oedd Tessa yn ffrind, roedd hi’n codi gwerth bywyd.”

Ychwanegodd na fyddai’r Gemau Olympaidd wedi dod i Lundain oni bai amdani hi, nac wedi bod yn llwyddiant hebddi.

 

 

Dywedodd Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow fod ganddi’r ddawn o “droi gair yn weithred bob cyfle”.