Mae yna brinder “dybryd” o dai sy’n addas ar gyfer pobol anabl, yn ôl adroddiad newydd.

Yn ôl y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) mae 365,000 o bobol anabl yn dweud nad yw eu cartrefi yn addas ar gyfer eu hanghenion.

Maen nhw’n annog y Llywodraeth i weithredu i wneud yn siŵr bod modd addasu tai newydd a gwneud mynediad yn haws i bobol anabl, a hefyd i adolygu’r modd mae safonau adeiladu yn cael eu gweithredu.

Mae adolygiad gan CCHD i’r broblem wedi dod i’r casgliad nad yw nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban wedi casglu data neu gynllunio ar gyfer y dyfodol, er bod nifer y bobol anabl yn cynyddu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn bwriadu adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy erbyn 2021 ond nid ydyn nhw wedi gosod targedau ar gyfer tai sy’n addas ar gyfer pobol anabl o fewn y ffigwr yna, yn ôl y CCHD.

Yn ôl y Comisiwn, mae’r rhai hynny sy’n byw mewn cartrefi sy’n cwrdd â’u hanghenion yn dweud bod eu hiechyd wedi gwella, ynghyd a’u gallu i ddod o hyd i swydd neu astudio, gan greu arbedion “sylweddol” i’r pwrs cyhoeddus drwy ostwng costau gofal cymdeithasol.

Dywedodd un o’r rhai oedd wedi cymryd rhan yn yr adolygiad nad oedd wedi gallu gadael ei fflat ail lawr ers 2011, ar wahân i gyfnodau angenrheidiol yn yr ysbyty, gan nad oes lifft yn yr adeilad ac nid yw’n addas ar gyfer cadair olwyn.

“Caeth”

Meddai David Isaac, cadeirydd CCHD bod miloedd o bobol anabl ar draws y Deyrnas Unedig yn teimlo’n “gaeth” yn eu cartrefi.

“Ni ddylai hawl unrhyw un i fyw’n annibynnol gael ei gyfyngu gan eu cartref, ac ni ddylai gwneud addasiadau angenrheidiol olygu bod ar restr aros hir.

“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth gymryd sylw o’n hargymhellion a gweithredu’n syth i fynd i’r afael a’r argyfwng yma sy’n effeithio bywydau cymaint o bobol anabl.”

Dywedodd llefarydd ar ran yr adran Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol eu bod nhw’n rhoi “£1 biliwn dros y ddwy flynedd nesaf i gynghorau fel eu bod yn gallu addasu eiddo ar gyfer pobol anabl i fyw bywyd annibynnol a diogel.

“Mae ein rheolau cynllunio yn ei gwneud yn glir bod yn rhaid i gynghorau ystyried anghenion yr henoed a phobol anabl wrth gynllunio ar gyfer cartrefi newydd yn eu hardal.”