Mae’r grŵp ymgyrchu dros Brexit – Leave.EU – wedi cael dirwy o £70,000 am dorri rheolau ynglŷn â gwariant yn ystod refferendwm yr Undeb Ewropeaidd (UE), meddai’r Comisiwn Etholiadol.

Roedd y grŵp wedi gorwario gan o leiaf £77,380 – 10% yn fwy na’r trothwy ar gyfer grwpiau oedd wedi cofrestru, yn ôl ymchwiliad.

Dywedodd y Comisiwn y gallai’r swm “fod yn sylweddol uwch” gan ychwanegu fod y grŵp wedi cyflwyno gwybodaeth “anghyflawn ac anghywir” am wariant.

Ond doedd dim tystiolaeth bod y cwmni Cambridge Analytica wedi gwneud cyfraniadau ariannol neu wedi darparu gwasanaethau a chael eu talu amdanyn nhw.

Mae un achos wedi cael ei gyfeirio at yr Heddlu Metropolitan, meddai’r  Comisiwn Etholiadol.

Dywedodd Bob Posner, cyfarwyddwr ariannol y Comisiwn Etholiadol bod Leave.Uk wedi cofnodi gwariant yn anghywir ac wedi gwario mwy nag oedan nhw’n cael gwneud a bod rheiny’n “droseddau difrifol”.

Un o gyd-sylfaenwyr y grŵp Leave.EU oedd Aaron Banks, un o gefnogwyr y blaid Ukip.