Mae pobl yng ngwledydd Prydain yn mwynhau’r Ŵyl Banc Mai cynhesaf ers i gofnodion ddechrau, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Roedd y tymheredd wedi cyrraedd 25.1C yn Gosport fore dydd Llun gan guro’r record flaenorol o 23.6C yn 1999.

Yn Heathrow yng ngorllewin Llundain roedd y tymheredd wedi cyrraedd 26.9C (80.4F), erbyn pnawn dydd Llun gyda disgwyl i’r tymheredd godi eto yn ystod y prynhawn.

Roedd y record flaenorol yn 1995 pan gyrhaeddodd y tymheredd 28.6C (83.4F) ar ddydd Sadwrn yn ystod Gŵyl y Banc.