Mae meddyg blaenllaw wedi taro’n ôl yn erbyn Donald Trump ar ôl iddo honni bod lloriau ysbyty yn Llundain wedi eu gorchuddio â gwaed yn sgil troseddau cyllyll.

Roedd arlywydd America wedi honni bod hyn yn ddadl dros barhau i beidio â thynhau unrhyw reolau ar berchnogaeth drylliau.

“Mae’n wir fod trais cyllyll yn broblem ddifrifol yn Llundain, ond mae awgrymu bod drylliau yn rhan o’r ateb yn chwerthinllyd,” meddai’r Athro Karim Brohi, llawfeddyg trawma yn Ysbyty Brenhinol Llundain.

“Mae anafiadau yn sgil saethu o leiaf ddwywaith mor farwol ag anafiadau cyllyll ac yn fwy anodd eu hatgyweirio.”

Roedd mymryn o awgrym o feirniadaeth gan yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt hefyd a drydarodd fod “atebion i’r broblem troseddau cyffurfiau ond nad oes yr un ohonynt yn cynnwys drylliau”.