Mae arlywydd America, Donald Trump, wedi cyfiawnhau defnyddio drylliau yn America trwy honni bod troseddau cyllyll yn gwneud i ysbyty yn Llundain ymddangos fel pe bai yng nghanol rhyfel.

Wrth annerch aelodau’r National Rifle Association (NRA) yn Dallas, Texas, dywedodd fod y troseddau yn Llundain mor ddrwg fel bod un ysbyty yno â gwaed ar ei lloriau oherwydd yr holl anafiadau.

“Fe wnes i ddarllen stori yn ddiweddar fod yn Llundain, sydd â chyfreithiau anhygoel o llym yn erbyn gynnau, ysbyty mor ddrwg ag ysbyty filwrol ar faes y gad mewn rhyfel.

“Does ganddyn nhw ddim gynnau, cyllyll sydd ganddyn nhw, ac mae gwaed ar holl loriau’r ysbyty.

“Rydym yma heddiw i gydnabod y byddwn ni fel Ceidwadwyr yn ymladd i amddiffyn hawliau pobl America o dan Ail Welliant y Cyfansoddiad.”