Mae’r mwyafrif helaeth o’r cyhoedd yn awyddus i weld ffermwyr yn cael eu talu i amddiffyn natur, yn ôl ymchwil newydd.

Mae’n debyg bod 91% o bobol eisiau hynny i ddigwydd, gyda 85% yn credu bod niferoedd creaduriaid gwyllt wedi cwympo dros y degawdau diwethaf.

Daw’r ystadegau o arolwg gan gwmni Populus ar ran elusen WWF (Y Gronfa Byd Eang tros Natur) – cafodd 2,089 o bobol eu holi.

Mae cynlluniau i dalu ffermwyr i blannu gwrychoedd a defnyddio llai o gemegau wedi cael eu hystyried yn y gorffennol.

“Positif iawn”

“Mae 75% o’r tir sy’n cael ei ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig, yn cael ei ddefnyddio er dibenion amaethyddol,” meddai Tony Juniper, un o Brif Weithredwyr WWF.

“Mae hyn yn golygu mae’r diwydiant hwn sydd â’r cyfle fwyaf i newid pethau. Gallai cefnogi ffermwyr i amddiffyn natur a bywyd gwyllt, gael effaith bositif iawn.”