Fe fydd ymchwiliad i weithgarwch y cwmni ymgynghorol gwleidyddol, Cambridge Analytica, yn parhau, er gwaetha’r ffaith bod y cwmni wedi mynd i’r wal.

Mae’r cwmni wedi bod yng nghanol ffrae fawr yn ddiweddar wedi iddi ddod i’r amlwg ei fod wedi casglu data personol miliynau o ddefnyddwyr y wefan gymdeithasol Facebook.

Fe gyhoeddodd Cambridge Analytica ddoe (dydd Mercher, Mai 2) y byddai’n dod i ben, gan honni bod y sylw negyddol yn ddiweddar wedi’i amddifadu o gwsmeriaid.

Ond mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi cadarnhau y bydd yr ymchwiliad i’r cwmni’n parhau, a hynny, meddai, er mwyn “erlyn unigolion a chyfarwyddwyr lle mae hynny’n addas.”

Cwestiynu Facebook

Yn y cyfamser, mae pwyllgor craffu seneddol yn parhau i alw ar sylfaenydd a phrif weithredwr Facebook, Mark Zuckerberg, i ymddangos o flaen panel o ASau i ateb cwestiynau.

Yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), roedd pennaeth technoleg Facebook, Mike Schoepfer, a gafodd ei holi’r wythnos ddiwethaf, wedi methu ag ateb cwestiynau’n “llawn”.

Mae’n debyg bod gwybodaeth bersonol hyd at 87m o ddefnyddwyr wedi’i werthu gan Facebook i Cambridge Analyticia, a hynny ar gyfer dibenion gwleidyddol.

Ers i hyn ddod i’r amlwg, mae Mark Zuckerberg wedi ymddiheuro’n gyhoeddus ar ran Facebook, tra bo Cambridge Analytica wedi gwadu gwneud unrhyw beth o’i le.