Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May, wedi dweud mai arbenigwyr meddygol yw’r rhai a ddylai wneud y penderfyniadau mewn achosion tebyg i un y babi, Alfie Evans.

Roedd Theresa May ar ymweliad ag Ysgol Gynradd Brooklands yn Sale heddiw (dydd Llun, Ebrill 30) pan gafodd ei holi a fyddai’n rhoi ei chefnogaeth i ‘Gyfraith Alfie’.

Mae’r gyfraith hon wedi’i chynnig gan yr Aelod Seneddol Ewropeaidd, Steven Wolfe, a’r bwriad yw rhoi mwy o bwerau i rieni benderfynu ar ofal meddygol plant sy’n angheuol dost.

“Achos trasig”

“Mae hon yn achos trasig,” meddai Theresa May. “Dw i’n meddwl ein bod ni i gyd yn cydymdeimlo’n fawr â rhieni Alfie.

“Mae hwn yn drasiedi anferth i orfod mynd trwyddo – marwolaeth plentyn – ac yn enwedig o’i weld yn digwydd fel hyn.

“Mae’n bwysig bod penderfyniadau am gefnogaeth feddygol sy’n cael ei rhoi i blant ac eraill yn cael eu gwneud gan glinigwyr, y rheiny sy’n arbenigwyr ar y mater.

“Ond dw i’n meddwl ein bod ni i gyd ar hyn o bryd yn cydymdeimlo â theulu Alfie, ac mae ein cydymdeimladau gyda nhw.”

Y cefndir

Fe fu farw Alfie Evans, y babi 23 mis oed, yn Ysbyty Plant Alder Hey, Lerpwl, dros y penwythnos, ar ôl i’w offer cynnal bywyd gael ei ddiffodd ddechrau’r wythnos.

Roedd wedi dioddef o gyflwr prin ar yr ymennydd, ac roedd ei rieni, Tom Evans a Kate James, wedi arwain brwydr gyfreithiol hir yn erbyn yr ysbyty er mwyn ei gadw’n fyw.

Roedd y ddau wedi dwyn achos i gael yr hawl i fynd ag ef i’r Eidal i dderbyn triniaeth bellach, ond fe gollon nhw’r hawl yn y Llys Apêl ddydd Mercher diwethaf.