Mae cwmni archfarchnad Sainsbury’s ac Asda wedi cyhoeddi rhagor o fanylion heddiw am eu bwriad i uno fel rhan o gynllun gwerth £12 biliwn.
Daw’r cyhoeddiad wrth i’r pwysau gynyddu i sicrhau bod y cytundeb yn cael ei fonitro gan y corff sy’n adolygu cytundebau o’r fath.
Roedd Sainsbury’s wedi cyhoeddi ddydd Sadwrn ei fod mewn trafodaethau gyda Walmart yn America, perchennog Asda, i uno. Fe fyddai’r cytundeb yn creu cwmni archfarchnad enfawr gyda mwy na £50 biliwn mewn gwerthiant.
Fe fyddai’n rhaid i’r cytundeb gael sêl bendith yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA).
Dywed Sainsbury’s nad oes bwriad i gau unrhyw siopau.