Mae galw ar i’r gwarchodwr cystadleuaeth gynnal ymchwiliad i gynlluniau Sainsbury’s ac Asda i uno, wrth i rai ddadlau y bydd yn cynnig llai o gystadleuaeth yn y diwydiant archfarchnadoedd.

Fe allai’r uno gael ei gyhoeddi ddydd Llun, a hynny fel rhan o gytundeb gwerth £10 biliwn. Fe fyddai’n golygu bod gan y ddwy archarfarchnad ran fwy o faint o’r farchnad archfarchnadoedd na Tesco.

Mae pryderon hefyd am ddyfodol swyddi yn sgil y cynlluniau.

Ymchwiliad

Cyn-Ysgrifennydd Busnes San Steffan ac arweinydd presennol y Democratiaid Rhyddfrydol, Vince Cable sy’n arwain y galwadau am archwiliad.

Mae’n dweud bod rhaid i’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd gynnal ymchwiliad ar unwaith, ac y dylid gorfodi cwmnïau i werthu siopau pe bai’r archfarchnad yn dominyddu mewn rhai ardaloedd.

Mae llefarydd busnes Llafur, Rebecca Long-Bailey wedi ategu’r galwadau, gan ddweud bod y cynlluniau’n bygwth “gwasgu” yr ychydig gystadleuaeth sydd yn bod eisoes, ac y bydd siopwyr yng ngwledydd Prydain yn dioddef.

Mae gan Tesco siâr o 25% yn y farchnad, Sainsbury’s 13.8% ac Asda 12.9% – gyda’i gilydd, byddai gan Sainsbury’s ac Asda 26.7%.

Mae undebau’n galw am gyfarfod â phenaethiaid y ddwy archfarchnad.