Mae aelod Llafur yn Nhŷ’r Arglwyddi, a adawodd ei rôl yn brif chwip y blaid yn yr Ail Dŷ yn dilyn ffrae am gostau, wedi cael ei orchymyn i ad-dalu £15,737 mewn costau teithio.

Fe wnaeth yr Arglwydd Bassam o Brighton gyfeirio ei hun at Gomisiynydd Safonau Tŷ’r Arglwyddi ar ôl i honiadau ymddangos yn y papurau newydd ei fod wedi hawlio gormod o gostau.

Dywed y Comisiynydd, Lucy Scott-Moncrieff, ei fod wedi torri’r côd ymddygiad ond heb ymddwyn yn anonest.

Yn ôl The Mail on Sunday, roedd gan yr Arglwydd Bassam yr hawl i gael costau o £36,366 y flwyddyn am ei fod yn brif chwip ac am nad yw ei brif gartref yn Llundain.

Roedd y lwfans i fod i dalu am “gostau aros dros nos i ffwrdd o unig neu brif gartref” Arglwyddi.

Ond yn hytrach na defnyddio’r arian i hawlio ail dŷ neu westy yn Llundain, dywedodd y papur fod yr Arglwydd Bassam yn teithio rhwng Brighton a Llundain – siwrne sy’n awr o hyd.

Ar yr un pryd, roedd wedi hawlio tua £6,400 y flwyddyn ar docynnau trên a chostau tacsi.

Derbyniodd ymchwiliad y Comisiynydd fod yr Arglwydd Bassam yn credu ei fod yn gallu hawlio’r gost ychwanegol.

Ond yn ôl yr ymchwiliad, dylai fod wedi gofyn cwestiynau am ei hawl i gael costau teithio ar ôl iddo dderbyn canllawiau ym mis 2017.