Mae’r elusen Achub y Plant wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n ymgeisio am arian gan Lywodraeth Prydain, yn sgil y ffrae ddiweddar ynglŷn ag aflonyddu rhywiol.

Yn ôl Prif Weithredwr presennol yr elusen, Kevin Watkins, ni fyddan nhw’n gwneud cais am nawdd ariannol newydd gan yr Adran Datblygu Rhyngwladol (DfID).

Mewn llythyr at ysgrifennydd yr adran, Penny Mordaunt, dywedodd ei fod yn “torri ei galon” ynglŷn â’r penderfyniad, ac ni fyddan nhw’n ailymgeisio am nawdd tan fod y “safonau uchaf” wedi’u cyrraedd ganddyn nhw.

Y cefndir

Daw’r cam diweddaraf hwn wrth i ymchwiliad gael ei gynnal gan y Comisiwn Elusennau i’r cyhuddiadau o aflonyddu rhywiol yn erbyn dau aelod o fwrdd rheoli Achub Plant sy’n dyddio’n ôl i 2012 a 2015.

Ddechrau’r flwyddyn, fe ymddiheurodd yr elusen i’r merched a gwynodd am ymddygiad y cyn-brif weithredwr, Justin Forsyth.

Yr wythnos ddiwethaf, fe ymddiswyddodd Syr Alan Parker, cadeirydd rhyngwladol Achub y Plant, am fethu â delio â’r cwynion.

Roedd adroddiad o 2015 wedi dangos bod gan Alan Parker berthynas “agos iawn” â Justin Forsyth, a adawodd yr elusen yn 2016, a’i bod yn bosib bod hyn wedi effeithio ar sut y deliodd â’r mater.

“Gresynu”

“Er fy mod i’n gresynu at yr amgylchiadau sydd wedi ein harwain at y sefyllfa hon, ynghyd â’r canlyniadau i’r plant, dw i’n cydnabod yn llwyr ein cyfrifoldebau i gyrraedd y safonau uchel rydych chi yn ei ddisgwyl,” meddai Kevin Watkins yn ei lythyr.

“Dw i am danlinellu ein bod yn cymryd yr achosion o aflonyddu rhywiol a gafodd eu hadrodd yn ein pencadlys yn 2012 a 2015 o ddifri.

“Rydym ni’n cydweithio’n llawn gydag ymchwiliad y Comisiwn Elusennau i sicrhau bod disgrifiadau llawn a gwir o’r achosion hyn yn cael eu gwneud.”