Mae papurau newydd wedi cyfrannu at ymdeimlad o Islamoffobia yng ngwledydd Prydain, yn ôl pennaeth newydd y Daily Express.

Gerbron un o bwyllgorau Tŷ’r Cyffredin ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 24), dywedodd Gary Jones bod edrych ar hen rifynnau o’i bapur yn gwneud iddo deimlo’n “anghyffyrddus iawn”, gan eu bod yn “hollol sarhaus”.

Mae’r prif olygydd ymhlith llond llaw o newyddiadurwyr a gafodd eu holi ynglŷn â phortread pobol o leiafrifoedd ethnig yn y wasg.

Penawdau

“Mae gan bob golygydd cyfrifoldeb am bob un gair sy’n ymddangos yn y papur newydd,” meddai, wrth y Pwyllgor Materion Cartref Tŷ’r Cyffredin.

“Ac o ystyried yr holl benawdau sydd wedi ymddangos yn y gorffennol, mae rhai wedi creu ymdeimlad o Islamophobia sy’n fy ngwneud i’n anghyffyrddus.”

Ymhlith y ffigyrau eraill wnaeth ymddangos gerbron y pwyllgor oedd rheolwr-olygydd The Sun, Paul Clarkson; prif olygydd cwmni Trinity Mirror, Lloyd Embley; a chyn-olygydd The Mail on Sunday, Peter Wright.