Mae rhedeg yn gyson yn gwneud pobol yn hapusach ac yn fwy hyderus, yn ôl arolwg newydd.

Fe gafodd yr arolwg ei gynnal gan adran Gymdeithaseg, Phrifysgol Glasgow, lle cafodd dros 8,000 o redwyr sy’n defnyddio’r rhwydweithiau cymdeithasol parkrun a Strava eu holi.

Roedd y mwyafrif o’r 8,157 (89%) yn dweud bod rhedeg yn gyson wedi’u gwneud yn bobol hapusach, a’i fod yn cael effaith bositif ar eu hiechyd meddwl a’u cyrff.

Yn gyffredinol wedyn, fe lwyddodd y rhedwyr i sgorio 4.4 ar Raddfa Hapusrwydd Rhydychen, sy’n uwch na’r cyfartaledd o 4.

“Cyflawni rhywbeth”

Yn ôl un o’r arbenigwyr, Dr Emmanuelle Tulle, mae rhedeg yn rhoi’r teimlad i bobol eu bod nhw wedi “cyflawni rhywbeth”, ac mae’n canmol rhwydweithiau fel parkrun a Strava.

“Mae’r cymysgedd o fynychu parkrun a dilyn eich cynnydd ar Strava yn gwneud i redwyr deimlo nad ydyn nhw ar eu ben eu hunain, ac yn eu galluogi i weld beth yw’r pwynt mewn rhedeg,” meddai.

“Maen nhw’n fwy tebygol o barhau i ymarfer corff yn gyson, ac o ganlyniad i hynny, yn cael y manteision.

“Mae yna gymysgedd o gystadlu a chyd-redeg, sy’n hynod fanteisiol.”

Roedd yr arolwg hefyd yn dangos bod 83% yn teimlo’n fwy awyddus i redeg o ganlyniad i ddefnyddio Strava.

Roeddo 55% yn dweud bod defnyddio parkrun wedi cael effaith bositif ar eu bywyd cymdeithasol.