Mae llywodraeth Cymru wedi sicrhau newidiadau i’r Mesur Ymadael ag Ewrop sy’n golygu y bydd datganoli’n cael ei ddiogelu wedi Brexit.

Yn dilyn misoedd o drafod, ynghyd ag achos yn yr Uchel Lys, mae gweinidogion Cymru wedi dod i gytundeb â Llywodraeth San Steffan ynglŷn â’r ffaith y dylai cyfrifoldeb dros feysydd datganoledig barhau yn nwylo’r llywodraethau datganoledig. Does dim cytundeb gyda’r Alban eto.

Yn ôl y mesur gwreiddiol, fe fyddai Llywodraeth Prydain wedi gallu cipio grym yn ôl o feysydd datganoledig fel amaeth a physgota yn dilyn Brexit.

Ond mae’r newidiadau diweddaraf yn golygu y bydd y grym yn aros yn nwylo Llywodraeth Cymru, heblaw am y meysydd hynny lle bydd angen cyflwyno rheolau ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan.

Bwriad y rheolau hynny wedyn fydd darparu ar gyfer marchnad mewnol gwledydd Prydain.

“Cam yn y cyfeiriad cywir”

“Mae parodrwydd Llundain i wrando ar ein pryderon ac i gynnal trafodaethau o ddifrif wedi cael eu croesawu,” meddai’r Gweinidog Cyllid, Mark Drakeford.

“Yn y Deyrnas Unedig datganoledig, mae angen i bob llywodraeth ddelio â’i gilydd yn gyfartal, ac mae’r cytundeb hwn yn gam yn y cyfeiriad cywir.”

“Mae angen i’r agwedd hon barhau wrth i ni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd a chychwyn y cam nesaf o drafodaethau gyda Brwsel.”