Mae nifer o dai wedi cael eu gwagio yn Coventry, wedi i ddyn gael ei arestio dan y Ddeddf Ffrwydron.
Mae swyddogion yr heddlu wedi defnyddio gwarant er mwyn cael yr hawl i archwilio ty yn y ddinas heddiw, ac fe gafodd uned diffodd bomiau y fyddin (EOD) ei galw i fwrw golwg tros yr eitemau.
Mae’r ardal o gwmpas y cyfeiriad yn Brookside Avenue wedi’i chau i ffwrdd, ac mae nifer o dai wedi’u gwagio rhag ofn.
Mae heddlu’r West Midlands wedi cadarnhau fod dyn 20 oed wedi’i ddwyn i’r ddalfa.