Marathon Llundain: rhedwr, 29, wedi marw

Diweddarwyd  

Matt Campbell (ar y dde) gyda’i ddiweddar dad, Martin, yn y canol a’i frawd Josh

Llun oddi ar dudalen JustGiving Matt Campbell ar gyfer y Brathay Trust

Mae dyn wedi marw ar ôl rhedeg dros ugain o filltiroedd ym Marathon Llundain.

Cafodd Matt Campbell, 29, ei daro’n wael ar ôl rhedeg 22.5 milltir, a chafodd ei gludo i’r ysbyty lle bu iddo farw.

Yn hanu o ogledd Loegr, roedd yn gogydd proffesiynol ac yn gyn-gystadleuydd ar raglen deledu MasterChef: The Professionals yn 2017.

Dyma oedd ail farathon Matt Campbell o fewn pythefnos – roedd wedi cwblhau ras ym Manceinion cyn rhedeg yn Llundain.

Roedd yn rhedeg ar ran elusen The Brathay Trust er cof am ei dad, a fu farw haf 2016.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones