Mi fydd gwasanaeth coffa arbennig yn cael ei gynnal yn Llundain heddiw (dydd Llun, Ebrill 23) er mwyn dathlu bywyd y llanc croenddu Stephen Lawrence, a gafodd ei lofruddio 25 mlynedd yn ôl.

Fe gafodd y bachgen 18 oed ei drywanu’n angheuol gan grŵp o fechgyn hiliol yn ardal Eltham, de Llundain, ar Ebrill 22, 1993.

Roedd y digwyddiad yn drobwynt pwysig, gydag Adroddiad Macpherson yn dilyn y llofruddiaeth yn dod i’r casgliad bod yr heddlu wedi gwneud camgymeriadau, ac yn euog o “hiliaeth sefydliadol”.

Fe gafodd dau o’r chwe pherson a ymosododd ar Stephen Lawrence a’i ffrind, Dwayne Brooks, eu dedfrydu i garchar am lofruddiaeth.

Mae David Norris a Gary Dobson yn y carchar am oes, tra bo Jamie Acourt, 41 oed, Neil Acourt (sy’n defnyddio’r llysenw Stuart), 42 oed, a Luke Knight, 41 oed, yn rhydd ar ol i achos preifat, a gafodd ei ddwyn gan rieni Stephen Lawrence, fethu.

Dim ond yr wythnos ddiwethaf y cyhoeddodd tad Stephen Lawrence, Neville Lawrence, 76 oed, ei fod wedi dod i’r penderfyniad y byddai’n maddau i lofruddwyr ei fab.

Cefnogaeth y teulu brenhinol

Ymhlith y rheiny a fydd yn rhan o’r gwasanaeth coffa heddiw yn eglwys St Martin-in-the-Fields yw’r tywysog Harry a’i ddyweddi, Meghan Markle.

Fe fydd y ddau yn cyfarfod â theulu Stephen Lawrence cyn y gwasanaeth, ac yna’n darllen neges o gefnogaeth ar ran y tywysog Charles.

Yn ystod y digwyddiad hefyd, fe fydd y comedïwr, Lenny Henry, yn cyfweld â thri pherson ifanc sydd wedi elwa o’r elusen a gafodd ei sefydlu er cof am Stephen Lawrence.