Mae galwadau cynyddol ar yr Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd i ymddiswyddo oherwydd y ffordd mae mewnfudwyr o wledydd y Gymanwlad – cenhedlaeth Windrush – wedi cael eu trin.

Dywed ysgrifennydd tramor yr Wrthblaid, Emily Thornbury, fod yr hanesion diweddar am drafferthion pobl sydd wedi treulio’r rhan fwyaf o’u hoes ym Mhrydain yn arwydd o bydredd sy’n treiddio drwy’r llywodraeth.

“Mae pobl wedi marw, pobl wedi colli eu gwaith, colli eu dyfodol,” meddai.

“Allai pethau ddim bod yn waeth, ac eto mae’r Ysgrifennydd Cartref yn meddwl ‘Fe alla’ i ymddiheuro ac fe fydd popeth yn iawn’. Mae hi’n anghywir.

“Dw i’n credu o ddifrif y dylai ymddiswyddo.”

Dywed arweinydd yr SNP yn San Steffan, Ian Blackford, hefyd na all Amber Rudd aros yn ei swydd.

“Mae hi wedi methu yn ei chyfrifoldebau – mae hi wedi dangos y Swyddfa Gartref ar ei fwyaf di-glem a chreulon – a does dim amheuaeth ei bod hi wedi difrodi enw da Prydain,” meddai.

“Mae hi bellach yn bryd i’r Ysgrifennydd Cartref ystyried ei sefyllfa.

“Rhaid i Theresa May hefyd ddangos arweiniad dros y sgandal – mae’n anghredadwy nad oes unrhyw ddiswyddiad nac ymddiswyddiad yn y Swyddfa Gartref.”

Yr un oedd neges Canghellor yr Wrthblaid, John McDonnell:

“Dylai’r Ysgrifennydd Cartref gydnabod ei chyfrifoldebau,” meddai. “Ac yn union fel roedd Theresa May yn galw ar weinidogion i gymryd eu cyfrifoldebau ac ymddiswyddo pan oedd Llafur mewn llywodraeth, dw i’n credu y dylai Amber Rudd fynd.”