Mae rhai o’r 40,000 a mwy o redwyr sy’n cymryd rhan ym Marathon Llundain wedi cychwyn ar eu ras.

Mae disgwyl mai heddiw fydd diwrnod poethaf y ras fyd-enwog ers iddi gychwyn yn 1981, gyda’r tymheredd yn debygol o godi i 23 gradd C.

Ymysg y rhedwyr eleni mae diffoddwyr tân o drychineb Tŵr Grenfell, plismon a gafodd ei drywanu yn ymosodiad London Bridge ac aelodau o ymddiriedolaeth Stephen Lawrence.

Mae cannoedd o blismyn ar ddyletwydd i helpu diogelu tua 800,000 o wylwyr a’r rhedwyr.