Mae Theresa May yn “hyderus” am ei chynlluniau ar gyfer Iwerddon wedi Brexit – a hynny er gwaetha’ adroddiadau anaddawol o’r cyfandir.

Yn ôl The Daily Telegraph mae cynlluniau’r Deyrnas Unedig am y ffin Wyddelig wedi cael eu “gwrthod yn llwyr” gan swyddogion yr Undeb Ewropeaidd

Daw hyn wedi i gyn-lysgennad Prydain yn Ewrop, Syr Ivan Rogers, ddweud bod arweinyddion Ewrop yn galw’r cynlluniau’n “ffantasi”.

“Rydym yn hyderus ein bod yn medru dod i gytundeb ar fater ffin Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon sydd yn gweithio i bawb,” meddai llefarydd ar ran Theresa May.

Cynlluniau

Gobaith Llywodraeth San Steffan yw sefydlu perthynas economaidd clos â Gweriniaeth Iwerddon, gan osgoi’r angen am wiriadau ar y ffin.

Posibiliad arall sydd wedi’i hystyried yw codi llunio ffin galed trwy ganol Môr Iwerddon.

Ond, mae’r Prif Weinidog, Theresa May, eisoes wedi cydnabod “na fyddai’r un Prif Weinidog Prydeinig yn medru cytuno i hynny”.